We are recruiting a senior executive to join Libera. The ability to communicate in Welsh is essential for this position.
Chwefror 2025
Wyt ti'n berson creadigol a brwdfrydig gyda phrofiad mewn marchnata neu greu cynnwys? Eisiau gweithio gyda thîm dwyieithog a bywiog? Chwilio am her newydd i roi dy brofiad ar waith?
Y swydd
Ry’n ni’n edrych am unigolyn profiadol i ymuno â thîm Libera, ac yn hytrach na ffitio unigolyn i swydd benodol, ry'n ni'n edrych i adeiladu swydd o gwmpas y person cywir a'u sgiliau, ac ry'n ni'n agored i siarad gydag unigolion sydd â diddordeb mewn swydd llawn amser, swydd rhan amser neu gytundeb cyfnod penodol. Gallwn gynnig cyflog sydd yn cyfateb i brofiad a sefyllfa’r ymgeisydd llwyddiannus.
Trosolwg o Libera a Social Media Conference Cymru
Mae Libera yn gwmni marchnata a chyfryngau sy’n arbenigo mewn cynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant, hysbysebion digidol a hyfforddiant. Mae ein cleientiaid yn cynnwys BBC Studios, BBC Cymru Wales, S4C, Mentera, Amgueddfa Cymru, Tinopolis, Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a llawer mwy o sefydliadau blaenllaw Cymru. Ry’n ni’n edrych am swyddog lefel uwch profiadol i ymuno â’r tîm.
Libera hefyd yw trefnwyr Social Media Conference Cymru. Bydd SMC Cymru yn dychwelyd yn 2026 gyda 400+ o fynychwyr. Mae hi bellach yn un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant marchnata yng Nghymru.
Profiad angenrheidiol
O leiaf 5 mlynedd o brofiad, sgiliau a gwybodaeth mewn rôl cyfryngau cymdeithasol, marchnata digidol, hysbysebion taladwy neu strategaeth ddigidol.
Bod yn ‘self starter’ gydag angerdd gwirioneddol am y maes ac yn frwdfrydig dros ddysgu a meithrin sgiliau newydd
Cyfathrebu yn y Gymraeg
Profiad o arwain prosiectau a chyfarfodydd ac yn gyfforddus yn cyflwyno canlyniadau, canfyddiadau ac argymhellion yn glir
Greddf olygyddol gref ac yn gyfforddus yn egluro’r rhesymeg tu ôl i benderfyniadau golygyddol a strategol
Profiad o greu cynnwys digidol
Profiad dymunol
Profiad o redeg hysbysebion digidol gyda phlatfformau megis Meta Ads Manager
Lleoliad
Hyblyg, ond disgwylir presenoldeb 2 ddiwrnod yr wythnos yn un o’n mannau cydweithio (Ar hyn o bryd: Tramshed Tech, Caerdydd neu Ganolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin)
Be’ allwn ni gynnig?
Cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a chleientiaid mawr cyffrous ar brosiectau arbennig - mae ein cleientiaid diweddar yn cynnwys BBC Cymru, BBC Studios, S4C (a Hansh), Tinopolis, Y Sioe Frenhinol ac Amgueddfa Cymru
Cynllun yswiriant iechyd lle mae modd hawlio rhai costau yn ôl am rai gwasanaethau iechyd (deintydd, optegydd ayyb) a mynediad 24/7 i GP arlein neu dros y ffôn (i staff)
Gweithio hyblyg a hybrid
25 diwrnod o wyliau blynyddol (+ gwyliau banc), sy’n cynyddu yn ôl blynyddoedd o wasanaeth (i staff)
Cyfraniadau pensiwn (i staff)
Dyddiad Cau
17:00, 23/02/2026
Ond rydym yn gobeithio recriwtio cyn gynted ag sy’n bosib, ac felly mae’n bosib y bydd y swydd yn cau yn gynt.
Anfonwch eich portffolio, proffil LinkedIn (neu CV os nad ydych ar LinkedIn) ac ebost yn esbonio pam bo' gennych chi ddiddordeb at HR@liberaagency.com