Swyddog Hysbysebu a Chynnwys
This is a job advert for an Advertising and Content Executive for which the ability to communicate in Welsh and English is essential.
Closing Date: 17:00, Wednesday 2 July 2025
Trosolwg o Libera a Social Media Conference Cymru:
Mae Libera yn gwmni marchnata a chyfryngau sy’n arbenigo mewn cynnwys digidol ar gyfer teledu a diwylliant, hysbysebion digidol a hyfforddiant. Ry’n ni’n chwilio am Swyddog Hysbysebu a Chynnwys sydd â phrofiad o redeg hysbysebion a chreu cynnwys digidol.
Libera hefyd yw trefnwyr Social Media Conference Cymru. Yn ei hail flwyddyn, denodd Social Media Conference Cymru dros 330 o bobl oedd yn gweithio ym maes marchnata a chyfryngau cymdeithasol i glywed gan arbenigwyr y maes ac i rwydweithio. Bydd SMC Cymru yn dychwelyd yn 2025 ac yn tyfu. Mae hi bellach yn un o brif ddigwyddiadau’r diwydiant marchnata yng Nghymru.
Byddi di angen:
O leiaf 2-3 o flynyddoedd o brofiad mewn rôl marchnata, hysbysebu, cyfryngau cymdeithasol neu greu cynnwys
Profiad gyda hysbysebion cyfryngau cymdeithasol taladwy yn defnyddio Ads Manager (nid Boost!) gan blatfformau fel Meta, TikTok, Google ac ati
Gwybodaeth dechnegol gref am hysbysebion digidol, metrigau perfformiad a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata
Bod yn gyfforddus yn ysgrifennu a chyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg
Bod yn gyfforddus yn arwain cyfarfodydd gyda chleientiaid ac egluro’r rhesymeg tu ôl i benderfyniadau golygyddol a strategol
Sgiliau cyfathrebu cryf - yn gallu cyflwyno canlyniadau, canfyddiadau ac argymhellion yn glir i dimau mewnol ac allanol
Profiad yn creu cynnwys llonydd a fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
Profiad yn defnyddio Premiere Pro, CapCut, neu feddalwedd golygu tebyg
Deall marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol - naws y gwahanol blatfformau, beth sy’n gwneud cynnwys da a sut i osod hysbysebion taladwy effeithiol.
Rwyt ti’n ‘self starter’ - yn gallu gweithio ar dy liwt dy hun, yn angerddol am y maes ac yn frwdfrydig dros ddysgu a meithrin sgiliau newydd.
* Peidiwch a phoeni os nad wyt ti’n arbenigwr ar bob un o’r pwyntiau uchod, ond bydd gwybodaeth eang am y maes yn fanteisiol.
Dymunol ond nid angenrheidiol:
Profiad o drefnu elfennau o ddigwyddiadau
Profiad o ddefnyddio offer camera a goleuo
Hyderus yn dylunio graffeg
Beth fyddi di’n ei wneud?
Ry’n ni’n gwmni newydd (sefydlwyd yn 2023) sy’n tyfu ac yn dîm bach gweithgar a chyfeillgar. Wrth fod yn rhan o’r tîm yn ystod dyddiau cynnar y cwmni, byddi di’n cael y cyfle i ennill profiad gyda thasgau amrywiol a chyfrannu at waith pwysig a chyffrous.
Rhedeg hysbysebion digidol i gleientiaid, gan gynllunio a chynnig syniadau creadigol, creu asedau digidol ac adrodd yn ôl ar berfformiad.
Bod yn brif bwynt cyswllt i rai cleientiaid, gan reoli’r holl waith, disgwyliadau a pherthynas gyda’r cleient.
Cyfrannu at lwyddiant Social Media Conference Cymru (gall hyn gynnwys trefnu elfennau o’r gynhadledd neu gyfrannu at farchnata) ac unrhyw ddigwyddiadau eraill
Cyfrannu at syniadau a chreu cynnwys ar gyfer brandiau gwahanol
Cynllunio, ffilmio a golygu cynnwys
Cyfrannu at sesiynau hyfforddiant i gleientiaid (gan gynnwys cynllunio, trefnu a chyflwyno)
Cynnig mewnbwn i syniadau a chynlluniau creadigol
Cyfrannu yn greadigol fel rhan o’r tîm
Be’ allwn ni gynnig?
Cytundeb llawn amser, 5 diwrnod (37.5 awr) yr wythnos am 6 mis (gyda’r posibilrwydd o barhad)
Cyflog o £27,000 - £31,000 (pro rata) yn ddibynnol ar brofiad
Lleoliad: Disgwylir presenoldeb 2 ddiwrnod yr wythnos yn un o’n mannau cydweithio (Ar hyn o bryd: Tramshed Caerdydd, Tramshed Abertawe neu Ganolfan S4C Yr Egin, Caerfyrddin)
25 diwrnod o wyliau blynyddol (+ gwyliau banc)
Cyfraniadau pensiwn
Cynllun yswiriant iechyd lle mae modd hawlio rhai costau yn ôl am rai gwasanaethau iechyd (deintydd, optegydd ayyb) a mynediad 24/7 i GP arlein neu dros y ffôn
Cyfnod cytundeb: 6 mis
Pam gweithio gyda ni?
Cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid a chleientiaid mawr cyffrous ar brosiectau arbennig - mae ein cleientiaid diweddar yn cynnwys BBC Cymru, BBC Studios, S4C (a Hansh), Tinopolis, Y Sioe Frenhinol ac Amgueddfa Cymru
Hyblygrwydd hybrid - ry’n ni’n gofyn am bresenoldeb yn un o’n mannau cydweithio 2 ddiwrnod yr wythnos pan yn bosib ond yn hyblyg i’r tîm weithio o adref neu leoliadau gwaith addas eraill.
Nifer gwyliau blynyddol yn cynyddu o 25 diwrnod i 27 diwrnod ar ôl 2 flynedd o wasanaeth, a diwrnod ychwanegol o wyliau am bob blwyddyn arall o wasanaeth hyd at 29 diwrnod o wyliau blynyddol.
Sut i wneud cais
Bydd angen CV neu ddolen i broffil LinkedIn wedi’i ddiweddaru
Dolenni neu bortffolio yn dangos enghreifftiau cynnwys/hysbysebion
Tystiolaeth o redeg hysbysebion yn y gorffennol (enghreifftiau o’r cynnwys, screenshots neu ganlyniadau ysgrifenedig yr hysbysebion)
Anfona at helo@liberaagency.com
Dyddiad cau: 17:00, Dydd Mercher, 2 Gorffennaf 2025